Math o system gyriant i gerbydau yw gyriant pedair olwyn, 4×4 ("pedair wrth bedair"), a 4WD ble mae pob un o'r pedair olwyn yn cael eu pweru. Gall y gyriant fod yn barhaol neu yn ôl yr angen; weithiau mae'r pwer yn troi'r ddwy echel yn hytrach na'r olwynion a gelwir y math hwn yn "all-wheel drive" (AWD). Ond mae "gyriant pedair olwyn" yn cyfeirio at gydrannau arbennig a phwrpas y cerbyd (offroader yn aml).
Datblygwyd systemau 4×4/4WD/AWD mewn gwledydd gwahanol ar gyfer cerbydau gwahanol ac nid oes un safon rhyngwladol nag un diffiniad absoliwt o'r gair.[1] Mae'r amrywiaethau felly o'r defnydd a roddir i'r term, yn cael ei lywio gan y farchnad - y prynnwr potensial - yn hytrach na pheirianneg a thechnoleg.[2][3]
Yn ogystal â gyriant 4-olwyn, ceir gyriant dwy olwyn; y dewis yma yw: 'gyriant blaen' neu 'gyriant ôl'. Wrth i geir trydan ddatblygu, yn enwedig rhai 'Llwyr Drydan' (EV) ceir system gyrru pob olwyn yn annibynnol o'i gilydd, gyda modur ar bob olwyn yn hytrach nag un injan mawr.